Menu:

No more scapegoats!

 

:: Cymraeg :: English ::

Cymru

Ar ol ddeng mlynedd o ymchwil penderfynodd y Grwp Wyddoniaeth Annibynnol (yr ISG) fod atal moch daear ddim yn effeithiol i rwystro ymlediad TB mewn gwartheg. Er gweithaf hyn, penderfynodd yr LGC dreialu atal moch daear yng Nghymru.
( Taflodd Lloegr y syniad o'r neilltu!)

Dim ond ar ol yr holl fudiad enfawr o wartheg i mewn i Gymru - ar ol yr epidemig o glwy'r traed a'r genau- bu dyfiant aruthrol y TB yn ein gwlad.
Ar y pryd nid yw'r prawf yn erbyn TB yn cael ei ddefnyddio yn ddigon aml - dim ond un waith pob bedair blwyddyn - ac felly nid oes gennym gyfanswm cywir.

Symudwyd llawer iawn o wartheg i newn i Gymru o ardaloedd llawn TB heb gael eu profi ac y mae'r TB yn dal I gael ei ledaeru mewn sioeau a gwerthiannau amaethyddol. Hynny yw, nid yw mesurau ymarferol wedi cael eu cymryd gan ffermwyr yng Nghymru neu gan Filfeddygon Llywodraethol I leihau ymlediad TB.

Mae nifer o'r Grwpiau Moch Daear yng Nghymru wedi bod yn ysgrifennu drwy'r flwyddyn i Elin Jones (MRA) am gael chwaneg o wybodaeth ac i dynnu ei sylw at y gwyddoniaeth - sydd yn hollol glir yn erbyn yr atal
Mae llawer o aelodion yng Nghymru gan yr Ymddiriedolaeth Moch Daear (Badger Trust) ac y maent, gyda VIVA, wedi trefnu dwy rali fawr yn Ne ac yng Ngogledd y wlad.

Mae'r nifer o grwpiau lleol yn cael eu cefnogi gan eu cymuned a hefyd gan yr ymwelwyr yn y frwydr pwysig hon yn erbyn y cwlio - cwlio a fedr barhau am ugain mlynedd yn ol prif-filfeddyg yr LGC.
Mae'r CBAG, y Grwpiau ar ran y Moch Daear, yn hollol yn erbyn hyn ac yn barod i afael ynddi!